SL(6)498 – Rheoliadau Rhestr Ardrethu Ganolog (Cymru) (Diwygio) 2024

Cefndir a diben

Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005 (“Rheoliadau 2005”) yn rhagnodi cynnwys y rhestr ardrethu annomestig ganolog ar gyfer Cymru. Enwir personau dynodedig (cwmnïau sydd yn drethdalwr mewn perthynas â hereditamentau'r rhestr ganolog) yn yr Atodlen i Reoliadau 2005. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2005 i ddiweddaru cyfeiriadau at bersonau dynodedig ac i hepgor y rhai nad ydynt bellach yn dalwyr ardrethi'r rhestr ganolog.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 2005 i newid enw “British Telecommunications plc” ym mhob lle y mae'n ymddangos, gan gynnwys yn rheoliad 8(5)(b) o Reoliadau 2005. Fodd bynnag, nid yw’r enw “British Telecommunications plc” yn ymddangos yn rheoliad 8(5)(b) o Reoliadau 2005; yn hytrach, mae’n ymddangos ar ddiwedd rheoliad 8(5), sy’n berthnasol i reoliad 8(5)(a) a rheoliad 8(5)(b).

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 16 yn hepgor “The British Waterways Board” o golofn gyntaf Rhan 10 o'r Atodlen i Reoliadau 2005. Mae hyn yn golygu bod eitem yn ymddangos yn ail golofn Rhan 10 nad oes unrhyw berson dynodedig wedi'i enwi ar ei chyfer. Byddai’n ddefnyddiol pe gellid cadarnhau ai dyna oedd y bwriad neu a ddylid hepgor y ddwy eitem yn rhes gyntaf y tabl.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Ni gynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y Rheoliadau hyn. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi:

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad. Mae Rheoliadau 2024 yn darparu ar gyfer diwygiadau gweinyddol na fyddant yn cael unrhyw effaith ymarferol ar Asiantaeth y Swyddfa Brisio na thalwyr ardrethi'r rhestr ganolog.

4.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Ni gynhaliodd Llywodraeth Cymru asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi:

Nid oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer Rheoliadau 2024 gan eu bod yn gwneud diwygiadau ffeithiol i ddiweddaru Rheoliadau 2005 ac nad ydynt yn newid effaith y polisi. Mae hyn yn cyd-fynd â'r polisi a nodir yng Nghod Asesiad Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar gyfer Is-ddeddfwriaeth.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwyntiau adrodd technegol yn unig.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

27 Mehefin 2024